2009 – 2013
Prifysgol Aberystwyth
Prosiect Doethuriaeth Ymarfer fel Ymchwil
Croesi’r Bar: Archwilio Hunaniaeth y Mewnfudwr Prydeinig Trwy Gyfrwng Archif yr Artist Cliff McLucas
Prosiect doethuriaeth sy’n seiliedig ar archif yr artist a chyfarwyddwr theatr Cliff McLucas (1945-2002). Mae’r traethawd yn cynrychioli ymdrech i ysgrifennu llyfr arfaethedig McLucas The Host and the Ghost: Some approaches to Site in the Theatre Works of Brith Gof 1989-1999 fel math o ymarfer fel ymchwil. Roedd y cynnig wedi paratoi gan McLucas ar gyfer y cyhoeddwr academig Routledge.
Wrth ddilyn strwythur ei gynnig mae’r traethawd yn llenwi bylchau’r cynnwys gan gyfeirio at archif Brith Gof ac at archif McLucas. Mae’r traethawd yn dadlau dros bwysigrwydd brofiad McLucas o fewnfudo i Gymru a’i ymdrech yn sgil hynny i ddysgu’r iaith Gymraeg fel sail i’w waith creadigol yng Nghymru. Mae’r ddadl hwn yn seiliedig ar ei ddefnydd parhaol o’r cysyniad o gymysgrywedd neu hybridity sy’n fodd iddo greu hunaniaeth ddiwylliannol sy’n disgrifio’r profiad hynny heb gyfeirio yn uniongyrchol at ei etifeddiaeth Saesneg Prydeinig.
Rwy’n ychwanegu at y ddadl trwy gynnwys trafodaeth o’m gwaith creadigol fy hun sy’n archwilio fy mhrofiad o fod yn blentyn i fewnfudwyr Prydeinig a’m perthynas yn sgil hynny gyda’r iaith Gymraeg.Rwy’n dadlau i archif McLucas gynnig cyfle i mi gyd-nabod profiadau mewnfudwyr Prydeinig mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig.
Cyllidwyd y prosiect yma gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Allbynnau Phd Outputs
Erthyglau mewn llyfrau wedi’u golygu / Articles in edited books
O’Neill, Rowan, ‘Yr Eisteddfod yng ngweithiau Hywel Teifi Edwards: parth ymreolaethol dros dro?’yn Anwen Jones (Ed.) Perfformio’r Genedl: Cyfraniad Hywel Teifi Edwards i’r Ddrama a’r theatr yng Nghymru (Cardiff: University of Wales Press, 2017). Welsh language – The Eisteddfod in the works of Hywel Teifi Edwards: a temporary autonomous zone? in Performing the Nation: Hywel Teifi Edwards’s contribution to drama and theatre in Wales.
O’Neill, Rowan, ‘Diogelwch yr archif: cymysgrywiaeth, dilysrwydd a hunaniaeth yn achos casgliad Clifford McLucas’ yn Anwen Jones & Lisa Lewis (Eds.) Ysgrifau ar theatr a pherfformio (Cardiff: University of Wales Press, 2013). Welsh language – The Safety of the Archive: hybridity, authenticity and identity in the case of the Clifford McLucas collection in Essays on theatre and performance.
Erthyglau / Articles
O’Neill, Rowan, ‘Welsh Keywords: Cymysgrywedd – hybridity’ in Planet, 2016, pp.112-121
Jones, Anwen & O’Neill Rowan, ‘Cartography as inclusive cultural practice in the work of Owen Rhoscomyl and Cliff McLucas: Living Maps of Wales’ in The International Journal of Welsh Writing in English, issue 2, 2015.
O’Neill, Rowan, ‘From Cardigan Island to Ynys Las: Tourism, development and the Wales coast path’ in Planet, 2014, pp.112-121
O’Neill, Rowan, ‘Heddwch Salem? Darlleniad Gofalus o Bortread Cliff McLucas o Cynog Dafis in Gwerddon’, Spring 2014. (Welsh language –‘The peace of Salem? A close reading of Cliff McLucas’ portrait of Cynog Dafis’)
O’Neill, Rowan, ‘If not us, who? Living through a second language’ in Planet, 206, (2012), pp. 19-27.
O’Neill, Rowan, ‘Y Lle dewisom? Plannu gwreiddiau, claddu gwreiddiau, mapiau dwfn’, in Tu Chwith, 34 (Spring 2011), pp. 60-70. (Welsh language –‘The place we chose? Planting roots, burying roots, deep maps’)
Catalogues
‘I was a stranger and ye took me in’, text and image in ed. Mary Modeen, Invisible Scotland: Revealing a Process of Interdisciplinary Discovery (Moray School of Art Press) pp. 62-3