Addo: Mentored Research & Development Project / Cynllun Mentora Ymchwil a Datblygu
Film Addo Ffilm
In December 2020 I was successful in gaining a place on a mentored research and development programme with creative agency Addo. From January to March 2021 I was mentored by Sarah Pace and attended bi-weekly group sessions with four other artists.
The film opposite documents the process of the residency and features all the artists and their work. The film was created by Antony Shapland.
Cyflwyniad Addo Presentation
The following text is a presentation made to an invited audience at the end of April as a result of the programme and documents work in progress towards a site specific opera based in Tresaith.
Ym mis Rhagfyr 2020 roeddwn i’n llwyddianus i gael lle ar raglen ymchwil a datblygu mentora gyda'r asiantaeth greadigol Addo. Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021 cefais fy mentora gan Sarah Pace a mynychais sesiynau grŵp bob yn ail wythnos gyda phedwar artist arall. Mae'r canlynol yn gyflwyniad a wnaed i gynulleidfa wahoddedig ar ddiwedd mis Ebrill o ganlyniad i'r rhaglen. Mae'n dogfennu gwaith ar y gweill tuag at opera safle-benodol wedi'i lleoli yn Nhresaith.
Fel rhan o raglen mentora gyda Addo dwi wedi bod yn edrych ar waith nofelydd o ddechrau’r 20fed ganrif Allen Raine. Y mae ei ffuglen ramantaidd wedi’i gosod yn Nhresaith, y gymuned arfordirol lle bu’n treulio ei gwyliau fel plentyn ac yn ddiweddarach yn dod i fyw. Ffugenw y nofelydd Anne Adalisa Puddicombe yw Allen Raine a anwyd i deulu dosbarth canol yng Nghastell Newydd Emlyn yn 1836 ac a ystyrir gan rai fel mam llenyddiaeth Eingl-Gymreig neu Gymraeg mewn Saesneg. Yn ei nofelau mae’r pentreflan Tresaith yn cael ei ail-adnabod fel Treswnd, Abersethin neu Mwntseison. Mae nofelau Raine yn cynnwys cyplau sy’n cael eu dyblygu a cham-baru gyda’r dryswch y plot yn aml yn cael eu datrys gan ddigwyddiadau trawmatig megis marwolaeth y cariad anffodus trwy dân, marwolaeth y tâd ddieithr wrth garnau tarw sy’n stampio, neu setlo anghydfod tir trwy gwymp y cae cyfan i mewn i’r môr.
Er bod rhan fwyaf o'r gwaith wedi'i leoli o amgylch Tresaith, mae ei bydoedd hefyd yn cysylltu â phyllau glo de Cymru ac ucheldiroedd mynyddig y gogledd yn ogystal â chylchoedd artistig uchelwyr Cymry Llundain. Mae Raine yn taenellu ei thestun gyda geiriau Cymraeg gyda chymeriadau sy’n sylwebu ar eu gafael wael ar y Saesneg, fel y bydd darllenwyr yn deall bod y gymuned y mae'n ysgrifennu amdani yn Gymraeg ei iaith er mae’n ysgrifennu ar gyfer cyhoeddwr Saesneg Prydeinig Hutchinson. Mae beirniaid fel Jane Aaron ac Wynn Thomas yn ystyried ysgrifen Raine yn nawddoglyd o leiaf os nad yw’n hiliol cas. Er enghraifft, mae ei nofel gyhoeddedig gyntaf, A Welsh Singer (1897) yn olrhain hanes y bugail Myfanwy, o amddifad tlawd i enillydd cystadleuaeth canu eisteddfod leol, i berfformiwr syrcas yn Llundain ac yn olaf canwr opera ar lwyfan Ewropeaidd. Mae’r testun yn cynnwys motif sy’n cael ei ail-adrodd ynglŷn â lliw croen yr arwres, mewn gwrthwynebiad i lysenw'r fam faeth iddi sy’n cyfeirio at ei gwynder, “Cream and roses!” laughed Lady Meredith; “that shows how a mother, even a foster-mother, is blinded by her love, for I never saw such a little brown-faced monkey.” [1]
Gyda darnau felly, wedi'u trwytho mor eglur ag agweddau gwladychiaeth ac ymerodraeth na ellir eu darllen heb sylw pam treulio amser gyda thafliad Fictoraidd o'r fath? Ym mhersonol fi’n ymddiddori yn ei hunaniaeth a’r ffaith er gwaethaf y pellter yr oedd ei iaith a’i dosbarth yn gosod arni roedd hi dal yn uniaethu a’i gymuned trwy ei ffuglen. Mae’n bwysig i mi hefyd ei bod hi'n fenyw ac mae'r pynciau y mae ei nofelau'n cyffwrdd â, er gwaethaf y genre rhamantus sy'n gallu ymddangos yn ansoffistigedig, yn cwestiynu realiti cymdeithasol penodol.
Er enghraifft ceir cyfeiriadau yn aml at yr ‘asylym’ fel y man lle bydd menywod trafferthus yn cael eu hanfon os ydyn nhw'n parhau i darfu ar 'sefydlogrwydd' y gymuned gyda'u hymddygiad gwrthgymdeithasol, un fenyw o'r fath yn amlwg yn dioddef o gyfyngder meddyliol yn dilyn marwolaeth ei babi ifanc (Torn Sails) tra bod y Ficer yn A Welsh Witch yn edmygu ‘pan-entheism’ y cymeriad canolog Catrin, sy'n cael ei labelu a'i erlid fel gwrach gan weddill ei chymuned.
Dwi hefyd yn mwynhau'r cyfeiriadau niferus at ganu yn y nofelau hyn. Mae yna ganu yn y capel, ymarferion yn y caeau ac yn y sied gwneud hwyliau ac mewn darlun o ddamwain lofaol (sy’n ddarlun go agos o ddamwain a ddigwyddodd ym Mhwll Tynewydd ym mis Ebrill 1877 [2]) mae canu emyn gan y glowyr sydd wedi'u trapio yn ddwfn o dan y ddaear yn galluogi achubwyr i'w lleoli a'u hachub. Fel y mae Phil Carradice wedi ysgrifennu, “Allen Raine was a romantic novelist but her unequalled knowledge of Welsh life and Welsh society mark her down as an influential and distinctive writer who captured the essence of a country still trying to find its place in the modern world.” [3]
Fy syniad gwreiddiol ar gyfer fy mhrosiect Allen Raine oedd seilio opera ar ei nofel Queen of the Rushes i gael ei berfformio ar y traeth yn Tresaith. Mae’r nofel wedi’i gosod yn ystod adfywiad 1904, a hyd yn oed yn cynnwys Evan Roberts, yr arweinydd carismatig y cyfarfodydd gweddi fel cymeriad yn y testun. Mae Ieuan Gwynedd yn ystyried diwygiad 1904 fel ymgais olaf Cymry cyffredin i wneud o grefydd (rhwymo pobl gyda'i gilydd) yr hyn a fu ar un adeg - 'poblogaidd, anghlerigol, annysgedig, ansoffistigedig, brwdfrydig, organig yn y gymuned a Chymraeg ei iaith'. [4] Gan ddychwelyd nôl at y nofel dros y misoedd diwethaf, darganfyddai fy mod wedi anghofio’n llwyr bod arwres ramantaidd y ffuglen, Gwenifer, trwy ran fwyaf o'r nofel, yn fud.
Ers 2014 dwi wedi byw yn Aberporth, pentref glanmôr yng Ngheredigion yn syth i'r de i Dresaith. Yn ystod yr amser hwn, rwy'n teimlo nad wyf wedi cael fawr o gyswllt gyda'r gymuned gyfagos. Efallai mai natur y lle hwn sydd wedi fy rhwystro; tref glan môr gyda phoblogaeth dros dro o ymwelwyr ac ail gartrefi ynghyd ag agosrwydd at gyfleuster prawf y Weinyddiaeth Amddiffyn a phoblogaeth sylweddol hefyd sydd wedi ymddeol. Mae fy ngwaith fel artist wedi tueddu yn hytrach i ganolbwyntio ar dref agosa Aberteifi (Caermadoc yn nofelau Raine) sydd yn y blynyddoed ddiwethaf wrth wynebu dirywiad gwledig wedi bod yn meithrin hunaniaeth newydd; hunaniaeth er hynny sydd wedi ei seilio'n bennaf ar hamdden a thwristiaeth.
Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, dechreuais arfer o gerdded bob dydd rhwng Aberporth a Tresaith. Yn ôl achlust, dim ond saith cartref parhaol sydd yn Nhresaith – y gweddill yw tai haf neu ail gartrefi. Sgil-effaith y pandemig covid yn lleol fu marchnad eiddo cydnerth a chynyddol; gwerthir tai cyn gynted ag y cânt eu hysbysebu.
Ffocws cyfredol cymuned Aberporth yw ymgyrch codi arian i ail-ddatblygu a diweddaru neuadd y pentref er mwyn galluogi mwy o’r gymuned cael mynediad i weithgareddau sydd ar hyn o bryd yn cynnwys marchnad WI, bowlenni mat byr a dosbarthiadau ymarfer corff. Ar raglen radio ddiweddar am bwysigrwydd parhad grwpiau canu yn ystod y cyfnod clo canolbwyntiodd ar bwysigrwydd cyfalaf cymdeithasol cerddoriaeth sy'n cael ei ystyried yn ddeublyg fel y gallu i bontio ac i fondio h.y.. rwymo pobl a’i gilydd. [5] Ar hyn o bryd nid oes côr yn cwrdd yn Aberporth.
Ers cwblhau Cerdded Adre fy mhrosiect perfformiad cyntaf yn 2007, rwyf wedi parhau i greu gwaith sydd wedi ymgysylltu â syniadau o iaith a hunaniaeth gan chwilio am ffyrdd o ddod â phobl ynghyd mewn diwylliant a lle. Yn fy nghais i Addo, ysgrifennais am fy ngwaith fel hyn, 'Ymhob prosiect mae'r gwaith / gwaith celf wedi gweithredu fel cynhwysydd' defodol 'sy'n ceisio caniatáu mynegiant o wahaniaeth tu fewn gofod perthynol o berthyn. Hynny yw mai wedi bod yn waith pontio.
Wythnos diwethaf wrth ddod i ben a’r cyfnod ymchwil yma cefais neges gan lyfrgell Aberteifi i ddweud bod llyfr yn barod i mi gasglu. Roeddwn i'n cofio mai fersiwn gyhoeddedig o Ynysoer oedd, y gwaith a osododd Allen Raine ar ei chwrs fel awdur, wrth iddi ennill gwobr mewn cystadleuaeth ysgrifennu stori Saesneg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon yn 1894. Cyhoeddwyd y llyfr yn 1909 o dan deitl arall, Where Billows Roll, blwyddyn ar ôl iddi farw. Pan gasglais y gyfrol o'r llyfrgell gwenais oherwydd yr hyn yr oeddwn wedi'i archebu oedd cyfieithiad Cymraeg o'r llyfr gan Megan Morgan sy’n dwyn y teitl, Lle Treigla’r Don Mae’n bosib cyfieithu’r teitl yn ôl i’r Saesneg fel, Where the waves mutate. Pe byddech chi'n ychwanegu to bach i'r o, mae don yn dod yn dôn, sy'n golygu tiwn. Rwy'n edrych ymlaen at ddarllen y gyfrol newydd hwn. Wrth i eiriau dreiglo ac i ieithoedd newid, mae caneuon newydd yn cael eu canu a bodau dynol yn bondio.
Pan oeddwn i tua 7 mlwydd oed fynychais fy Eisteddfod gyntaf wrth gystadlu mewn cystadleuaeth canu unigol. Cynhaliwyd y digwyddiad yn neuadd bentref Aberporth lle canais gân werin draddodiadol o'r enw Y Ddafad Gorniog. Mae'r geiriau agoriadol wedi'u hysgythru yn fy nghof ond nid wyf yn cofio'r dôn yn llwyr. Y Cwm Soniarus yw ymadrodd a fathwyd gan yr hanesydd Hywel Teifi Edwards i wawdlun cymuned Gymraeg Fictoraidd iwtopaidd cyn-ddiwydiannu a chyn-Seisnigeiddio. Yn y diwedd, mae Gwenifer arwres nofel adfywiad Raine yn adennill ei haraith ac yn yr eiliad honno, yn goresgyn gydag emosiwn, mae hi'n anadlu gweddi o ddiolchgarwch, “in words that no longer died upon her tongue, but reached her ears in the music of the human voice.” [6] Nid wyf eto wedi cynhyrchu opera o ganlyniad i’r cyfnod mentora hon ond rwyf wedi creu darn o sain fer:
I ddarllen fersiwn Saesneg o’r gwaith yma gweler fy mlog: https://www.rowanoneill.com/blog/y-cwm-soniarus sy’n rhan o gyfres o ysgrifau a cyhoeddwyd yn ystod fy nghyfnod o fentora gyda Addo rhwng Ionawr a mis Mawrth 2021
Gyda llawer o ddiolch i Addo am eu rhaglen a ariennir gan Gronfa Adfer Ddiwylliannol Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru - Cymorth i Sefydliadau COVID-19.
Troednodiadau
[1] Allen Raine, A Welsh Witch, (Dinas Powys: Honno, 2013), p. 317
[2] Hywel Teifi Edwards, Arwr Glew Erwau’r Glo (1850 - 1950), (Llandysyl: Prifysgol Cymru Abertawe, 1994), p. 19
[3] Phil Carradice https://www.bbc.co.uk/blogs/wales/entries/df1ec9a4-3643-3d0d-a3eb-aea0004acc39 viewed 25/4/2021
[4] Gwyn Alf Williams, When was Wales? (London: Penguin, 1991 ), p. 240 quoting Ieuan Gwynedd Jones Explorations and Explanations: Essays in the social history of Victorian Wales (Gomer, 1991)
[5] Thinking Allowed: Community and Social Capital broadcast on BBC Radio 4 (12/4/2021) https://www.bbc.co.uk/programmes/m000tskb
[6] Allen Raine, Queen of the Rushes: A Tale of the Welsh Revival (Aberystwyth: Honno, ), p. 211