Image by / Delwedd gan Di Ford
Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim
September 2022 - May 2023
A participatory cross-border arts project seeking to connect with the Welsh and Irish diaspora and a new pilgrim route between St Davids in Pembrokeshire and Ferns in Wexford
A macaronic mapping of song and story
The project took its title and inspiration from an 18th century hymn by the prolific Welsh writer William Williams, Pantycelyn.
The song widely known in Wales and beyond through the Welsh diaspora will be familiar to a great many other people around the globe as it is mostly sung to the tune of Amazing Grace.
This project invited people wherever they were in the world to sing this song or any song that has the ‘power to call you back home and to pin that recording to an online map and the themes of this project travel, identity, pilgrimage and return and to pin that recording to an online map:
https://pererinwyf.org/?lang=en
The project began in September 2022 with a series of online workshop seminars exploring themes of the project; travel, identity, pilgrimage and return. These seminars were recorded and also pinned to the map. The project also resulted in a documentary film created in collaboration with radio producer Paul Evans and film makers Jacob Whittaker and John Ó Faoláin and a new song ‘An Dara Craiceann (tr. the Second Skin)’ written by Rachel Uí Fhaoláin with accompanying song film by John Ó Faoláin.
A collaboration with Span Arts, Jacob Whittaker, Alan Wills and Wexford based artists Rachel Uí Fhaoláin and John Ó Faoláin on behalf of the Ancient Connections project led by Pembrokeshire County Council with partners Wexford County Council, Pembrokeshire Coast National Park Authority and Visit Wexford. Funded by the European Regional Development Fund through the Ireland Wales Co-operation Programme.
For more information see: https://span-arts.org.uk/pererin-wyf-2/?locale=en-GB
Medi 2022 - Mai 2023
Prosiect celfyddydau cyfranogol oedd yn ceisio cysylltu gyda Chymry a Gwyddelod alltud gan gyfeirio’n benodol at Sir Benfro a Llwch Garmon (Wexford) a phererindod drawsffiniol newydd sydd â’r bwriad o gysylltu’r ddau le.
Mapio macaronig o gân a chwedl
Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn.
Bydd y gân sy’n adnabyddus iawn yng Nghymru ac i’r Cymry alltud hefyd yn gyfarwydd i lawer iawn o bobl eraill ledled y byd gan ei bod yn cael ei chanu’n bennaf ar dôn Amazing Grace.
Cynsail sylfaenol y prosiect hwn oedd gwahodd pobl lle bynnag y bônt yn y byd i ganu’r gân hon neu unrhyw gân sydd a’r pwer i alw chi adre ac i binio recordiad hwnnw i’n map ar-lein.
https://pererinwyf.org/?lang=en
Dechreuodd y prosiect ym mis Medi 2022 gyda chyfres o weithdai / seminarau ar-lein yn archwilio themâu’r prosiect o deithio, hunaniaeth, pererindod a dychwelyd. Mae’r seminarau wedi recordio a gellir eu gweld ar fap y prosiect hefyd. Allbynnau eraill y prosiect oedd ffilm ddogfen wedi ei greu mewn cydweithrediad a chynhyrchydd radio Paul Evans a chrewyr ffilm Jacob Whittaker a John Ó Faoláin a chân newydd ‘An Dara Craiceann (cy. yr ail groen) gan Rachel Uí Fhaoláin gyda ffilm i gyd fynd gan John Ó Faoláin.
Gellir gweld mwy o wybodaeth am y prosiect yma: https://span-arts.org.uk/cy/pererin-wyf-2/
Cydweithrediad gyda Chelfyddydau Span, Jacob Whittaker ac Alan Wills ac artistiaid o Lwch Garmon, Rachel Uí Fhaoláin a John Ó Faoláin ar ran y prosiect Cysylltiadau Hynafol a arweinir gan Gyngor Sir Penfro gyda’r partneriaid Cyngor Sir Wexford, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Wexford. Ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.